Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a
fideogynadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 9 Chwefror 2023
Amser:
09.30 -
15.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13201
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Llyr Gruffydd AS (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AS Huw Irranca-Davies AS Delyth Jewell AS Jenny Rathbone AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Yr Arglwydd Deben, UK Committee on Climate Change Marili Boufounou, Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd y DU James Tarlton, Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd y DU Graham Vidler, Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Clare Pillman, Cyfoeth Naturiol Cymru Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol, Gwybodaeth, Strategaeth a Chynllunio, Cyfoeth Naturiol Cymru Rachael Cunningham, Cyfoeth Naturiol Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Andrea Storer (Dirprwy Glerc) Andrew Minnis (Ymchwilydd) Chloe Corbyn (Ymchwilydd) Lorna Scurlock (Ymchwilydd) Nia Moss (Ymchwilydd) Hannah Johnson (Ymchwilydd) Rob Davies (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cyllideb Garbon 1 a Sero Net Cymru
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU.
3 Bysiau a choetsys sero net - Sesiwn briffio gan Gydffederasiwn Cludiant Teithwyr (CPT)
3.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio a gofynnodd gwestiynau i gynrychiolydd y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr.
4 Papurau i'w nodi
4.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4.1 Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
4.2 Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023
4.3 Penodiadau Cyhoeddus
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 6,7,8,9, 10 a 12 o gyfarfod heddiw.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Trafod y dystiolaeth a glywyd o dan eitemau 2 a 3
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd o dan eitem 2.
6.2 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 3.
7 Meysydd o ddiddordeb ymchwil - sesiwn briffio technegol
7.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn briffio technegol ar brosiect Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil y Senedd.
8 Fframwaith Cyffredin Dros Dro: Gwastraff ac Adnoddau - sesiwn briffio technegol
8.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn briffio technegol ar y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer gwastraff ac adnoddau.
9 Trafod adroddiad drafft y Pwyllgor ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC)
9.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft, a chytuno arno, yn amodol ar fân newidiadau.
10 Trafod adroddiad drafft y Pwyllgor ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio
10.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft, a chytuno arno, yn amodol ar fân newid.
11 Gwaith craffu blynyddol ar Gyfoeth Naturiol Cymru
11.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru.
12 Gwaith craffu blynyddol ar Gyfoeth Naturiol Cymru - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 11
12.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a glywyd o dan eitem 11.